6 Mae ei ysblander a'i urddas yn amlwg;mae ei gryfder a'i harddwch yn ei deml.
7 Dewch bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch!Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD!
8 Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da!Dewch i'w deml i gyflwyno rhodd iddo!
9 Plygwch i addoli'r ARGLWYDDsydd mor hardd yn ei gysegr!Crynwch o'i flaen, bawb drwy'r byd!
10 Dwedwch ymysg y cenhedloedd,“Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!”Felly mae'r ddaear yn saff, does dim modd ei symud.Bydd e'n barnu'r byd yn deg.
11 Boed i'r nefoedd a'r ddaear ddathlu'n llawen!Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi!
12 Boed i'r caeau a'u cnydau ddathlu!Bydd holl goed y goedwig yn siffrwd yn llawen