1 Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu,felly dylai'r gwledydd grynu!Boed i'r ddaear gyfan grynuo flaen yr un sydd wedi ei orsedduuwch ben y ceriwbiaid!
2 Yr ARGLWYDD ydy'r Duw mawr yn Seion;yr un sy'n rheoli'r holl bobloedd.
3 Boed i bawb dy addoli di – y Duw mawr, rhyfeddol!Ti ydy'r Duw sanctaidd!
4 Ti ydy'r brenin cryf sy'n caru cyfiawnder!Ti ydy'r un sydd wedi dangos beth ydy tegwch,ac yn hybu cyfiawnder a chwarae teg yn Jacob.
5 Addolwch yr ARGLWYDD ein Duw!Ymgrymwch i lawr wrth ei stôl droed!Mae e'n sanctaidd!
6 Roedd Moses, ac Aaron ei offeiriad,a Samuel yn galw ar ei enw –Roedden nhw'n galw ar yr ARGLWYDD,ac roedd e'n ateb.