6 Roedd Moses, ac Aaron ei offeiriad,a Samuel yn galw ar ei enw –Roedden nhw'n galw ar yr ARGLWYDD,ac roedd e'n ateb.
7 Siaradodd gyda nhw o'r golofn o niwl.Roedden nhw'n ufudd i'w orchmynion,a'r rheolau roddodd iddyn nhw.
8 O ARGLWYDD ein Duw, roeddet ti'n eu hateb nhw.Roeddet ti'n Dduw oedd yn barod i faddau iddyn nhw,ond roeddet ti hefyd yn eu galw i gyfrif am eu drygioni.
9 Addolwch yr ARGLWYDD ein Duw!Ymgrymwch i lawr ar ei fynydd cysegredig,achos mae'r ARGLWYDD ein Duw yn sanctaidd!